Goscinny, R. / Uderzo, A. / Escritor
Mae’r Rhufeiniaid wedi goresgyn Ynys Prydain, ond mae pentre bach y pennaeth Bycinampalax yn dal i wrthsefyll y concwerwyr. Mae hwnnw’n anfon Inglansglorix i ofyn am gymorth y Galiaid, ond pan ddaw Asterix ac Obelix i Brydain gyda chasgen llawn diod hud, mae cael y gorau o’r Rhufeiniaid yn dasg anodd. Wedi antur fyrlymus sy’n ymweld â Thwr Londinium a maes chwarae Twicenum, mae’n edrych fel petai popeth ar ben — nes bod Asterix yn tynnu swp o ddail o’i boced, dail a fydd yn newid y byd!